Rhaid mynd i'r afael â'r 'diffyg democrataidd' yng Nghymru er mwyn i'n sefydliadau datganoledig barhau i fod yn llewyrchus.  Does dim ond angen i ni edrych ar Brexit i weld beth all ddigwydd pan nad yw etholwyr yn derbyn diet rheolaidd o wybodaeth ffeithiol o ansawdd uchel ynghylch sefydliad gwleidyddol - maent yn ymddieithrio oddi wrtho, ac yn barod i'w weld yn cael ei ddiddymu pan fydd syniadau gwrth-sefydliadol yn cydio ynddynt. Gwaetha'r modd, ni fydd gan Gymru wasg fasnachol ffyniannus cyn hir. Mae gwasg fasnachol yn ddibynnol ar hysbysebu, ac o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig, mae gan Gymru boblogaeth gymharol fach a thlawd nad yw mor atyniadol i hysbysebwyr. Ar ben hynny, mae'r DU yn parhau i fod yn wladwriaeth hynod ganoledig, a bydd y wasg yn parhau i ffafrio Llundain ar draul Caerdydd oherwydd dyna le mae'r sefydliadau gwleidyddol mwyaf a mwyaf dylanwadol wedi eu lleoli.

Ers datganoli, mae'r cyfryngau Cymreig sydd eisoes yn dameidiog wedi parhau i wanhau a chwtogi ar wariant, gyda pherchnogaeth a phenderfyniadau golygyddol bellach yn digwydd yn ganolog a'r tu allan i ffiniau Cymru. Mae'r Western Mail wedi gweld cwymp yn ei gylchrediad o dros 55,000 yn 1999 i 16,754 yn 2016. Y Daily Post sydd â’r gwerthiant uchaf o holl bapurau newydd Cymru, sef 23,645. Serch hynny yn 2016 penderfynodd roi'r gorau i anfon newyddiadurwr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymdrin â materion datganoledig. Mewn arolwg a gynhaliwyd yn 2016 gan Cushion & Scully canfuwyd nad oedd pobl Cymru yn dod i gyswllt rheolaidd â newyddion am Gynulliad Cymru, ac mai dim ond 4% oedd yn darllen y Western Mail, a 2.5% y Daily Post. Ar y llaw arall, mae 16% yn darllen y Daily Mail. Mewn arolwg a gynhaliwyd yn 2014 gan y BBC/ICM darganfuwyd bod dryswch eang ynghylch pa bwerau oedd wedi eu datganoli i Gynulliad Cymru, gyda 48% yn unig yn nodi'n gywir bod iechyd yn fater datganoledig, a 42% yn credu'n anghywir bod gan y Cynulliad reolaeth dros blismona.

Mae dau ddewis amgen yn lle gwasg fasnachol wan.  Gwasg wirfoddol yw'r cyntaf, yn cael ei chynnal gan y rhai hynny sydd â diddordeb brwd mewn digwyddiadau cyfoes yng Nghymru.  Un enghraifft o hyn yw project Nation.Cymru. Ond ni fydd gan broject gwirfoddol byth yr adnoddau i ddarparu ffrwd ddyddiol o newyddion am ddigwyddiadau cyfoes ac ymchwilio ac adrodd dwys sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru'n meddu ar ei sffêr cyhoeddus ei hun. Ychydig o gymhelliad sydd chwaith i wirfoddolwyr adrodd mewn ffordd sydd yn niwtral yn wleidyddol.

Yr ail ddewis yw cyfryngau sydd yn derbyn nawdd cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru neu'r Cynulliad Cenedlaethol. Dros y flwyddyn ddiwethaf hon rwyf wedi gwneud ymchwil i newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg ar-lein  sy'n derbyn nawdd cyhoeddus yng Nghymru.  Roedd yr ymchwil hon yn cynnwys cyfweliadau dwys gyda newyddiadurwyr a dadansoddiad ystadegol o ddata defnyddwyr gwefannau.  Mae cyfryngau newyddion digidol trwy gyfrwng y Gymraeg wedi eu datblygu'n arbennig o dda, gyda dau gorff newyddion sy'n derbyn nawdd cyhoeddus, sef, Golwg 360 a BBC Cymru Fyw, yn cynnig newyddion ar-lein yn ddyddiol. Mae tair gwefan arall, sef O'r Pedwar Gwynt, Y Cymro a Barn, sy'n cynnig cyflenwad cyson o gynnwys gwreiddiol.  Mae fy ymchwil yn awgrymu bod cyfryngau Cymraeg sydd yn derbyn nawdd cyhoeddus yn mynd peth o'r ffordd tuag at liniaru'r 'diffyg democrataidd' yng Nghymru.

Oherwydd nawdd cyhoeddus, mae newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg yn mwynhau rhyw fath o oes aur. Mae BBC Cymru Fyw a Golwg360 rhyngddynt yn denu dros 57,000 o ymwelwyr unigol bob wythnos.  Mae tua hanner y gynulleidfa hon o dan 40 mlwydd oed.  Maent wedi gwneud defnydd effeithiol o'r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o ddenu cynulleidfa newydd, ac iau, na fyddai'n draddodiadol wedi troi at gyhoeddiadau print Cymraeg megis Golwg neu raglenni teledu a radio megis Newyddion 9 a Taro'r Post.

Mae dadansoddiad o ddata gwefan Golwg 360 wedi awgrymu bod newyddion am wleidyddiaeth Cymru a sefydliadau gwleidyddol Cymru yn boblogaidd iawn ymysg ei defnyddwyr.  O'r 200 stori a gyrchwyd amlaf ar y wefan dros gyfnod o flwyddyn, roedd 37 yn ymwneud â gwleidyddiaeth yn y Cynulliad neu yn Llywodraeth Cymru. Roedd gan y rhan fwyaf o'r straeon ryw gyswllt â chyfrifoldebau datganoledig Cynulliad Cymru - 82 yn ymwneud yn uniongyrchol â goroesiad y Gymraeg, 44 am gelfyddydau Cymru, a 30 ynghylch cyfryngau Cymru.

Efallai mai gorsymleiddio fyddai awgrymu y byddai cyfryngau Saesneg gyda nawdd cyhoeddus yng Nghymru yn arwain at gynnydd mewn diddordeb yn y pynciau hyn. Canfu'r ymchwil fod cynulleidfa'r gwefannau newyddion Cymraeg ar-lein hyn hefyd yn gwneud defnydd da o wasanaethau Saesneg y BBC, Y Guardian, Wales Online a'r Daily Post. Roeddent yn tueddu i droi at wefannau newyddion Saesneg i gael newyddion am wleidyddiaeth Brydeinig, newyddion rhyngwladol a chwaraeon, ac yn mynd at BBC Cymru Fyw, Golwg 360 a gwefannau Cymraeg eraill i chwilio am bynciau nad oes fawr o drafodaeth arnynt yn y cyfryngau Saesneg, neu le ceir trafodaeth heb ddealltwriaeth ddigonol.  Felly, er nad yw'r diddordeb enfawr yn y pynciau hyn ar wefannau newyddion Cymraeg o bosib yn arwydd o archwaeth cyhoeddus ehangach am newyddion am Gymru, mae'n awgrymu serch hynny fod yna archwaeth nad yw'n cael ei ddiwallu ar hyn o bryd gan y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru.

Mae llwyddiant y gwefannau newyddion Cymraeg hyn sy'n cael eu noddi'n gyhoeddus yn awgrymu nad oes dim llawer o reswm pam nad fyddai gwefannau newyddion cyfrwng Saesneg yn derbyn nawdd cyhoeddus hefyd yn opsiwn ymarferol.  Cadarnhaodd newyddiadurwyr mewn cyfweliadau nad oeddent erioed wedi teimlo o dan bwysau i sensro eu gwaith neu ysgrifennu cynnwys ffafriol am unrhyw blaid neu sefydliad oherwydd eu dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus.

Prinder adnoddau o fewn y cyfryngau Cymraeg

Ond mae'r ffaith bod adnoddau i'w gweld yn brin yn golygu bod newyddiadurwyr sy'n gweithio trwy'r Gymraeg yn amheus o effeithiolrwydd y cyfryngau Cymraeg i ddal egin-ddemocratiaeth yng Nghymru i gyfrif. Mewn cyfweliadau gyda newyddiadurwyr yn Golwg 360, Barn ac O'r Pedwar Gwynt, datgelwyd eu bod yn cael anhawster i ddod i hyd i'r amser a'r adnoddau i wneud newyddiaduraeth ymchwiliol ddwys.  Mae’r broblem hon wedi dwysau yn sgil y galw cynyddol am newyddion aml-gyfrwng sy'n drwm ar adnoddau, megis cyfweliadau fideo, ac roedd llawer o newyddiadurwyr oedd yn gweithio trwy’r Gymraeg yn teimlo nad oedd ganddynt yr amser, yr adnoddau na'r gallu technegol i wneud hyn.  Mae hyn yn awgrymu, er bod nifer dda iawn o ffynonellau newyddion yn Gymraeg ar-lein, mewn gwirionedd gall fod diffyg plwraliaeth, oherwydd mae'r gwefannau hyn yn ymdrin â llawer o'r un pynciau, heb fod ganddynt yr adnoddau i ymchwilio'n ddyfnach.  Roedd y cyrff cyfryngol hyn hefyd yn brin o amser ac adnoddau i ddenu hysbysebwyr, a hynny'n creu rhyw gylch seithug o ddibyniaeth ar adnoddau prin.  Mae anallu i ganolbwyntio ar ddenu hysbysebwyr yn achos pryder neilltuol wrth i gwmnïau fel Facebook a Google ddechrau mireinio eu gallu i dargedu cynulleidfaoedd sy'n siarad Cymraeg.

Problem gysylltiedig yw nad oes gan lawer o'r cyhoeddiadau a gyllidir gan Gyngor Llyfrau Cymraeg unrhyw bresenoldeb ar-lein a gall fod ganddynt ddealltwriaeth gyfyngedig o sut i'w hyrwyddo eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol.  Mae eu llwyddiant yn dal i gael ei fesur gan Lywodraeth y Cynulliad yn ôl eu gallu i werthu copïau o gyhoeddiadau print yn hytrach na chyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib.

Yr ateb i'r ddwy broblem yw bod gwefannau y tu allan i'r BBC yn gweithio gyda'i gilydd, yn cynnull cynnwys ar-lein ar un wefan newyddion canolog yn hytrach na gwario arian yn cynnal gwefannau newyddion ar wahân. Mae Gwefannau Y Cymro, Barn ac O'r Pedwar Gwynt yn eilradd i'w cyhoeddiadau print, ac mae llawer o gyhoeddiadau eraill nad oes ganddynt bresenoldeb o gwbl ar y we.  Gallai cyhoeddi'r rhan fwyaf neu'r cwbl o'r cynnwys a gyllidir gan Gyngor Llyfrau Cymru ar un wefan newyddion cyfrwng Cymraeg, megis gwefan Golwg 360, sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf, ddenu cynulleidfa fwy (ac ifancach) at gynnwys y cylchgronau a'r papurau newydd hyn tra ar yr un pryd yn cryfhau cynnyrch Golwg 360 a'i wneud yn fwy amrywiol. Byddai'n sicrhau hefyd bod yr holl gylchgronau sy'n derbyn arian gan Gyngor Llyfrau Cymru â phresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gallu denu cynulleidfa newydd, ifancach na wyddant ddim am eu cyhoeddiadau print. Byddai rhyddhau amser golygyddion a dreulir yn cynhyrchu cynnwys ar-lein a mynd i'r afael â'r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi mwy o gyfle iddynt fynd ar ôl hysbysebwyr a thyfu eu cyrff cyfryngol y tu hwnt i ffiniau cyllid cyhoeddus.